Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023

 

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae paragraff 3.11.11 o Statutory Instrument Practice (5ed Argraffiad) yn darparu y dylai rhaglith ddatgan pob darpariaeth alluogi y mae OS yn cael ei ddilysrwydd  ohoni neu drwyddi. Mae paragraff 3.11.14 yn nodi, “The enabling provisions include all of those that make clear: what may, or must, be done; by what means something is to be done; and who is empowered to do it.”  

 

Mae adran 10(3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn nodi'r hyn y caiff Rheoliadau ei wneud. Y diffiniad o “regulations” (rheoliadau) yn adran 45(1) sy'n grymuso Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 10(3). Barn Llywodraeth Cymru yw, yn yr achos hwn, fod adran 45(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 wedi ei henwi'n briodol fel darpariaeth alluogi.